Cefndir Mudiad Meithrin

Mudiad Meithrin yw’r prif ddarparwr gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol drwy rwydwaith genedlaethol o gylchoedd meithrin, cylchoedd Ti a Fi, gofal cofleidiol a meithrinfeydd dydd cyfrwng Cymraeg.

Sefydlwyd Mudiad Meithrin ym 1971. Ein prif nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Credwn hefyd ei bod yn bwysig sicrhau cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau a gweithgareddau blynyddoedd cynnar yn ei gymuned leol.

Mae Mudiad Meithrin yn cynnal Cynlluniau Cyfeirio ar draws Cymru sy’n cefnogi plant ag anghenion ychwanegol yn y cylchoedd meithrin.  Mae’r cynlluniau hyn yn cyflogi Cysylltwyr sy’n gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau a’r cylchoedd meithrin er budd plant a’u teuluoedd.

Gall gwasanaethau'r cynlluniau gynnwys:

  • Cyfle i’r plentyn chwarae a phlant eraill yn y gymuned leol.
  • Cefnogaeth aelod ychwanegol o staff yn y Cylch os oes angen
  • Cyfle i drafod cefnogaeth addas i’r plentyn gyda’r Cysylltydd
  • Amser rhydd i’r rhiant gyda’r sicrwydd fod plentyn yn derbyn gofal o ansawdd uchel
  • Offer arbenigol
  • Cyfle i’r plentyn ymuno yn yr hwyl a gwneud ffrindiau mewn awyrgylch hapus a diogel

 

 

Erbyn hyn, mae yna 551 o gylchoedd meithrin yn cynnig sesiynau gofal ac addysg ddyddiol ar gyfer plant 2 - 5 mlwydd oed a 44 meithrinfa dydd yn darparu gofal dydd llawn i blant ar draws Cymru. Mae 358 o gylchoedd Ti a Fi ledled Cymru sy’n cynnig cyfle gwych i blant o enedigaeth hyd at oed ysgol a’u rhieni gwrdd unwaith yr wythnos.  Mae’r gwasanaethau yn darparu profiadau blynyddoedd cynnar i oddeutu 19,000 o blant bob wythnos.

Rydym yn cydweithio gyda rhaglen Dechrau’n Deg i ddarparu cyfleoedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, a rydym yn cydweithio gyda phob Awdurdod Addysg lleol i gynnig addysg rhan amser i blant 3 oed yn eu cymuned leol.  Er mwyn cyflawni hyn, mae Mudiad Meithrin yn elusen gofrestredig sy’n cyflogi dros 200 o bobl, yn staff cenedlaethol a sirol yn ogystal â mewn meithrinfeydd dydd, gyda 2000 o staff ychwanegol yn gweithio yn y cylchoedd ei hunain. Cefnogir y cylchoedd gan rwydwaith cenedlaethol o staff proffesiynol sy’n eu cynghori ar amrediad o faterion er enghraifft hybu ymarfer da, hyfforddiant staff a chyswllt ag awdurdodau Lleol. Yn ogystal, mae’r Mudiad yn gweithio yn agos iawn gyda rhieni er mwyn darparu cymorth a chyngor i’w galluogi i ddatblygu a chefnogi gwaith y cylchoedd yn y cartref.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Y Cyd-destun

Yn gyffredinol mae mudiad meithrin yn ymwybodol fod yr heriau canlynol yn effeithio ar brofiadau a chyfleoedd plant bach sydd ag ADY yng Nghymru ac sydd yn siarad Cymraeg:

Prinder mewn arbenigwyr sydd yn gallu darparu eu gwasanaethau i blant trwy gyfrwng y Gymraeg e.e. therapyddion iaith a llefaredd, ymwelwyr iechyd, seicolegwyr addysg, cynghorwyr cwnsela.

Prinder mewn cyfleoedd i gynorthwywyr meithrin i dderbyn hyfforddiant arbenigol ar anawsterau dysgu penodol trwy gyfrwng y Gymraeg

Prinder mewn arbenigedd ynglŷn â chefnogi datblygiad ieithyddol plant mewn cyd-destun dwyieithog.

Prinder asesiadau safonol i asesu anghenion dysgu ychwanegol trwy gyfrwng y Gymraeg

Prinder adnoddau arbenigol i gefnogi plant a phobl ifanc sydd yn derbyn addysg yn Gymraeg neu yn siaradwyr Cymraeg gartref.

Prinder mewn asesiadau arbenigol addysgiadol a datblygiad plant ar gael yn Gymraeg

Prinder mewn adnoddau i ganiatâi i blant o dan 3 oed ag ADY dwys i dderbyn cyfleoedd meithrin cyffelyb i’w cyfoedion.

Edrychwn ymlaen at weld cynnwys y Cod Ymarfer newydd maes o law ac i weld gwelliannau hanfodol i’r Bil i sicrhau fod trefniadau a chyfrifoldebau ar gyfer cefnogi plant ag ADY yn gadarn o’r cychwyn cyntaf.  O safbwynt capasiti’r gweithle i roi trefniadau newydd ar waith nid ydym yn gallu dehongli eto o’r wybodaeth sydd ar gael faint o ddisgwyliadau ychwanegol fydd yn debygol o godi, ond yn ddi-os dylai rhaglenni hyfforddiant i’r gweithle gynnwys cyfleoedd i fagu arbenigedd ymarferwyr y blynyddoedd cynnar mewn materion yn ymwneud a ADY. 

Egwyddorion cyffredinol ac amcanion y Bil

Cred Mudiad Meithrin y dylai’r Bil gael ei osod yn gadarn yng nghyd-destun hawliau plant trwy gynnwys cyfeiriad at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant ar flaen y Bil fel y gwnaethpwyd gyda’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2004 (gweler isod)

(2)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn adran 6(1)(a), (b) neu (c) roi sylw dyladwy i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i gytuno drwy benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 44/25 dyddiedig 20 Tachwedd 1989 (“y Confensiwn”).

Croesawn yr egwyddor yn y Bil hwn i ddiwygio ein system ni yng Nghymru er mwyn cynnig darpariaeth dysgu ychwanegol i blant o 0-25 oed.   Da hefyd yw gweld y bydd hyn yn pennu cyfrifoldebau statudol i ddiwallu angen pob plentyn a pherson ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol o unrhyw fath.  Mae Mudiad Meithrin yn cytuno fod deddfwriaeth yn hollbwysig i gyflawni hyn. 

Nodwn fod y diffiniad o’r amcanion sydd yn ymddangos yn y memorandwm yn annigonol, i ddiwallu’r egwyddorion cyffredinol.  Yn benodol mae paragraff 3.3  yn datgan y bydd y Bil yn creu:

a) fframwaith deddfwriaethol unedig ar gyfer cefnogi pob plentyn ag ADY sydd o oedran ysgol orfodol neu’n iau a phob person ifanc sydd ag ADY sydd mewn ysgol neu addysg bellach (AB);

b) proses integredig a chydweithredol o asesu, cynllunio a monitro sy'n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol;

Gan ddilyn y nodau craidd a amlinellir yn y memorandwm hoffai Mudiad Meithrin godi’r materion canlynol:

AMCAN CRAIDD 1

3.5 Cyflwyno'r term Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Mae’r diffiniad sydd yn cael ei gynnig yn y Bil yn dehongli ADY yng nghyd-destun cyrhaeddiad disgwyliedig plentyn erbyn eu bod yn cyrraedd oed ysgol yn unig.  Mae hyn yn ddiffiniad cul o ‘ddysgu’ sydd ddim yn cydnabod y broses o sut mae babanod a phlant yn datblygu.  Wrth lynu at ddiffiniadau sydd yn ddibynnol ar gyd-destun addysg ffurfiol, mae perygl i anghenion plant am symbyliad (stimulation) anogaeth a rhyngweithio cymdeithasol (sydd yn gwbl hanfodol i ddatblygiad ymenyddol plant bach) gael ei anwybyddu neu ei ddiystyru.  Wrth ystyried asesu anghenion ychwanegol addysgol plant bach o dan dair oed, dylai eu mynediad i brofiadau cynnar holl bwysig (fel cymdeithasu a chwarae mewn lleoliad fel Cylch Ti a Fi neu Gylch Meithrin) fod yn ystyriaeth.

Weithiau bydd anghenion llawer mwy sylfaenol am wasanaethau arbenigol e.e.. Ffysio- therapi, Therapi Iaith a Llefaredd ac ati, ymhell cyn i’r plentyn gyrraedd oedran ysgol.  Ni fydd y diffiniad hwn yn  arwain at wasanaeth i’r plentyn oni bai bod modd dangos sut y byddai eu trafferthion yn effeithio ar allu ‘dysgu’ yn yr ysgol yn y dyfodol.

Byddai ehangu'r diffiniadau i fod yn gynhwysfawr tuag at fabanod a phlant bach trwy ddefnyddio gwybodaeth am ddatblygiad plant yn hytrach nag ‘addysg’ plant yn unig yn gwella ansawdd a defnydd y diffiniad yn y Bil hwn.

AMCAN CRAIDD 2

3.6 Ystod oedran 0 i 25: Mae'r Bil yn dwyn ynghyd y systemau deddfwriaethol presennol a gwahanol ar gyfer cefnogi:

a) plant a phobl ifanc o oedran ysgol orfodol sydd ag AAA;

b) pobl ifanc mewn addysg bellach sydd ag anableddau a/neu anawsterau dysgu.

Er ei fod yn fwriad gan y Bil i gysoni asesu a chefnogi plant o 0 - 25, mae yna rwystrau penodol a bylchau yn y Bil lle nad oes digon o wybodaeth.  Nid yw'n eglur sut y bydd y systemau newydd yn effeithio ar blant a babanod (cyn iddynt gyrraedd ysgolion a gynhelir neu ysgolion prif ffrwd).  O ystyried y diffiniad uchod a ymddengys yn y memorandwm (t10), gellid tybio nad yw’n fwriad i gynnwys plant o dan oedran ysgol orfodol o gwbl!

Cydnabyddwn fod cyfeiriadau achlysurol yn y Bil ei hun at blant o dan oedran ysgol.  Maent yn anghyson serch hynny ac ni cheir darlun clir o sut dylai babanod a phlant (a’i rhieni/gofalwyr)  ddod i gysylltiad â'r gwasanaethau cywir cyn cyrraedd oed ysgol.

Gan ddyfynnu o’r Bil:

3      (2) Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” i blentyn sy’n iau na thair oed yw darpariaeth

addysgol o unrhyw fath.

Fel yr ydym eisoes wedi nodi nid yw’r diffiniad hwn yn ddigonol i gwmpasu anghenion datblygiad plant o dan dair oed, lle bod posibilrwydd fod cefnogaeth addas y tu hwnt i ddiffiniad cefnogaeth ‘addysgiadol’.  Mae ystod eang o ymyraethau priodol ar gael i helpu datblygiad babanod a phlant (therapi iaith a llefaredd, cefnogaeth heriau ymddygiadol neu anawsterau emosiynol; anghenion synhwyraidd neu gorfforol heb ddiagnosis, problemau clyw, problemau gweld, anawsterau cyfathrebu ac ati)  Byddai’r rhain oll yn rhwystr i'r plentyn ac yn effeithio ar ei g/allu i ddatblygu perthnasau cymdeithasol ac i ddysgu yn y pendraw. Darperir y gwasanaethau hyn gan y gwasanaethau iechyd fel arfer.

(Mae’n wir i nodi hefyd nad ydy’r ddarpariaeth i bobl ifanc dros 16 yn ddigonol gan nad ydyw’n delio gyda’r sefyllfa pan fo pobl ifanc yn ceisio mynychu addysgu uwch neu gyfleoedd prentisiaethau, neu yn derbyn addysg trwy gorff wedi ei is-gontractio i ysgol neu goleg addysg pellach.

AMCAN CRAIDD 3

3.8 Cynllun unedig

Mae Pennod 2 y mesur yn amlinellu’r cynlluniau a’r bwriadau o safbwynt paratoi a chynnal Cynlluniau Dysgu Unigol (CDU). Mae’n hanfodol bwysig fod plant o dan oedran ysgol yn gallu cael CDU yn ôl yr angen am y rhesymau a nodwyd eisoes uchod.  Rydym yn gweld y bydd plant o dan oedran ysgol yn dod o dan gyfrifoldeb yr awdurdodau lleol a bydd dyletswydd arnynt i : (a) llunio a chynnal cynllun datblygu unigol

(11 Dyletswydd i benderfynu: awdurdodau lleol T.14 o’r Bil). 

Braf fyddai gweld cyfeiriad cadarnhaol at ddyletswyddau'r awdurdod lleol tuag at blant 0-3 oed ar wyneb y Bil yn hytrach na bod yn rhaid dehongli pwy sydd yn gyfrifol am CDU plant yn y blynyddoedd cynnar, trwy ddadansoddi’r rhestr o’r rheiny nad sydd yn gymwys i dderbyn cynllun gan yr awdurdod lleol.  Mae hyn yn ei wneud yn annelwig i deuluoedd yn ogystal ag i bobl broffesiynol.  Cydnabyddwn fod hyn yn cael ei egluro yn fwy clir yn y Cod ymarfer.

Croesawn yr ymrwymiad isod i barchu dewisiadau ieithyddol  y plentyn a’r teulu.

(5) Os yw’r awdurdod lleol yn llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, rhaid iddo—

(a) penderfynu a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg

i’r plentyn neu’r person ifanc, a

 

Dylid cynnwys manylion pellach yn y canllawiau (Cod) am sut yn union y dylai’r awdurdod weithredu’r ddyletswydd hon tra'n hysbysu teuluoedd o fanteision dwyieithrwydd, pa wasanaethau sydd yn addas yn ieithyddol yn ogystal â dewis iaith addysgiadol y plentyn yn y dyfodol.  Ni ellir trafod natur y gefnogaeth a chyfrwng iaith priodol y CDU na'r gwasanaethau heb ddealltwriaeth da o anghenion a dewisiadau ieithyddol y teulu.

Wrth lunio disgwyliadau am y broses o bennu ym mha iaith y bydd unrhyw ddarpariaeth ag asesiadau yn cael eu cynna; mae angen cyngor arbenigol yn rhan o’r Cod neu’r memorandwm ynglŷn a sut i wneud hyn.  Mae angen ystyried iaith y cartref, cyfrwng iaith addysg neu ofal y plentyn, cyfrwng iaith yr ysgol y bydd y plentyn yn ei fynychu os nad ydynt wedi cyrraedd oed ysgol.  Bydd angen arweiniad ar y materion hyn cyn i’r Bil ddod i rym.

Mae’r ffaith nad oes unrhyw gyfeiriad at leoliadau gofal plant nas cynhelir a’u swyddogaethau nhw wrth ymwneud a phlant fydd ag ADY yn destun pryder mawr.  Mae arfer gref a chadarn wedi eu sefydlu ers blynyddoedd o gydweithio rhwng y Sector gwirfoddol a’r Awdurdodau lleol i leoli a chefnogi plant sydd angen darpariaeth dysgu ychwanegol.  Trwy gynlluniau cyfeirio megis Law yn Llaw mae plant ar draws Cymru wedi ac yn cael profiadau addysg gynnar werthfawr ac addysgiadol.  Mae perygl i’r diffyg cyfeiriad at hyn yn y Bil ac yn y memorandwm niweidio darpariaethau a phartneriaethau sydd eisoes yn bodoli a thrin gwasanaethau sydd yn holl bwysig i blant a’u teuluoedd fel rhywbeth gwbl ymylol i’r broses statudol o gefnogi plant sydd a ADY.  Hoffai Mudiad meithrin weld y ddyletswydd statudol a fydd gan yr awdurdodau lleol yn cael ei ymestyn i gynnwys cydweithio gyda phartneriaid priodol i asesu a darparu’r gwasanaethau ychwanegol i gefnogi plant ag ADY yn y blynyddoedd cynnar.

Cefnogwn yr alwad am dempled cenedlaethol ar gyfer Cynllun Datblygu Unigol a fydd yn mynd i’r afael a chysoni gwasanaethau rhywfaint ar lawr gwlad,  Byddai hyn yn hwyluso’r broses o symud ardaloedd i blant a’u teuluoedd a hyfforddi’r gweithle ar draws Cymru. 

AMCAN CRAIDD 4

3.9 Cynnwys plant a phobl ifanc yn fwy:

Croesawn y bwriad i sicrhau fod barn plant, eu rhieni a phobl ifanc yn cael ei hystyried bob amser fel rhan o'r broses gynllunio.  Nid yw’n amlwg yn y Bil pa rannau o’r broses ‘gynllunio’ sydd yn berthnasol.  Byddai’n welliant pe bai’r ddyletswydd hon yn cynnwys gwrando ar farn rhieni a phlant / pobl ifanc ynglŷn ag asesiadau priodol, ymyraethau priodol, dewis iaith y gwasanaeth, dewis iaith addysg y dyfodol a phrofiad y defnyddwyr o’r gwasanaethau dros y cyfnod pan fod CDU yn weithredol.

AMCAN CRAIDD 5

3.10 Dyheadau uchel a gwell deilliannau. 

Mae mudiad meithrin yn cytuno â’r amcan hon.

AMCAN CRAIDD 6

3.11 System symlach sy’n achosi llai o wrthdaro

Mae mudiad meithrin yn cytuno â’r amcan hon

AMCAN CRAIDD 7

3.12 Rhagor o gydweithredu

Cytuna Mudiad Meithrin a’r amcan hon.  Nid ydym o’r farn fod y trefniadau cyfeirio, asesu, cynllunio CDU a darparu sydd wedi eu nodi yn y Bil yn addas nac yn ddigonol at y blynyddoedd cynnar.   Gan ddyfynnu o’r memorandwm:

‘Er na fydd angen cymorth penodol ran iechyd ar y rhan fwyaf o blant ag ADY gan na fydd eu hanghenion ychwanegol yn gysylltiedig ag iechyd, os yw’n berthnasol ac yn briodol gellir cael cyngor a chymorth gan weithwyr iechyd proffesiynol’.

Yn y blynyddoedd cynnar mae’n debygol mae’r gwasanaethau iechyd fydd y cyntaf i adnabod anghenion dysgu ychwanegol.  Mae’n bwysig fod y system newydd yn gallu ymgymryd yn gyflym ac amserol gyda chyfeiriadau oddi wrth wasanaethau iechyd at yr awdurdod lleol, i asesu a gosod CDU yn ei le (i gynnwys gwasanaethau iechyd). 

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddarpariaeth yn y Bil i ganiatâi i wasanaeth arall yn y blynyddoedd cynnar gyfeirio yn uniongyrchol at yr awdurdod lleol i ofyn am asesiad a chefnogaeth briodol i blant o dan oed ysgol.  Dylid adolygu hyn a sicrhau fod modd i’r rheiny sydd yn darparu gofal plant gyfeirio at wasanaeth arbenigol lleol (gyda chefnogaeth deuluol) i sicrhau fod unrhyw ADY yn cael eu hystyried a’u diwallu yn briodol.

Mae lleoliadau gofal plant fel meithrinfeydd a chylchoedd meithrin wedi magu profiad ac arbenigedd yn y maes cynhwysiant.  Mae’r diffyg cydnabyddiaeth o hyn fel y gwelir yn y Bil ac yn y Memorandwm yn siomedig ac yn peryglu tanseilio’r gwaith da hanesyddol sydd wedi ei wneud mewn lleoliadau gofal plant. 

Gan ystyried y cyd-destun polisi cyfredol i gynyddu niferoedd y plant sy'n derbyn gofal plant ag addysg gynnar (y Polisi 30 awr), mae’n bwysicach nag erioed fod llwybrau cyfathrebu a chyfeirio clir ar gael.  Rhaid i rieni a gofalwyr; darparwyr gofal plant a darparwyr addysg gynnar wybod sut i gael help a chefnogaeth ar gychwyn profiadau dysgu plant bach pan fod amheuaeth am eu ADY. 

AMCAN CRAIDD 8

3.13 Er mwyn hyrwyddo cydweithredu, mae’r Bil yn gosod dyletswydd newydd ar fyrddau iechyd i benodi Swyddog Arweiniol Clinigol Addysg Dynodedig (DECLO).

 

Cytunwn ei fod yn hollbwysig fod cyfrifoldebau ar awdurdodau iechyd i asesu a darparu gwasanaethau priodol i blant ag ADY.  Croesawn yr angen i ystyried pa ddewis iaith sydd yn addas ar gyfer y gwasanaethau hyn.  Nid yw’n eglur sut y bydd Cynllun Plentyn Iach Cymru yn cydweithio a chyd-redeg gyda dyletswyddau’r awdurdod lleol. Pe bai disgwyl i’r DECLO ymdrin a phob achos unigol ble fod gwasanaethau iechyd yn cydweithio gyda’r awdurdod lloel gallai’r pwysau ar y system olygu arafwch ag oedi wrth geisio asesu a darparu gwasanaethau i blant ag ADY.    

AMCAN CRAIDD 9

3.14 Osgoi anghytundebau a’u datrys yn gynharach

Mae Mudiad Meithrin yn cytuno mewn egwyddor.  Ceir dyletswydd yn y Bil ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol  ar gyfer plentyn neu berson ifanc.  Dylsai hyn gynnwys gwasanaethau eirioli i rieni hefyd er mwyn ei bod yn gallu deall prosesau a phenderfyniadau a chyfranogi yn llawn.  Nis oes cyfeiriad yn y Bil at yr angen i’r gwasanaeth hwn fod ar gael yn Gymraeg pan fo angen hynny.

AMCAN CRAIDD 10

3.15  Hawliau clir a chyson i apelio

Mae Mudiad Meithrin yn cytuno mewn egwyddor.  Nid oes sôn yn y Bil ynglŷn a defnydd iaith yn y Tribiwnlys Addysg Cymru.  Mae’n holl bwysig fod plant a theuluoedd sydd yn ceisio apelio ynglŷn a gwasanaethau annigonol yn gallu gwneud hynny drwy gyfrwng iaith eu dewis os ydyw’n Gymraeg neu’n Saesneg. Hefyd, nid yw’n ddigonol bod y corff sydd a chyfrifoldeb dros lunio CDU (e.e. Corff llywodraethol, Coleg Addysg Bellach neu’r Awdurdod Lleol) ddangos y cymerwyd ‘camau rhesymol’ yn unig i ddarparu darpariaeth addysgiadol ychwanegol Gymraeg.  Nid yw’n glir wedyn a fydd modd i deulu apelio pan na roddwyd gwasanaethau Cymraeg priodol iddynt.  Nid oes yma feini prawf i egluro ystyr ‘camau rhesymol’ ac felly mae perygl y bydd teuluoedd a phlant ag ADY sydd angen gwasanaethau Cymraeg ond yn methu eu cael, hefyd yn methu apelio ynglŷn a diffygion mewn darpariaeth o’r fath.

AMCAN CRAIDD 11

3.16 Cod gorfodol:

 

Croesawn fod bwriad i gryfhau statws cyfreithiol y Cod arfaethedig newydd.  Gwelwn ei fod yn fwriad i gynnwys canllawiau sy’n ymwneud a swyddogaethau amryw o gryf gan gynnwys

 

(d) person sy’n darparu addysg feithrin a gyllidir o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol yn unol â’r ddyletswydd....

Byddai modd cryfhau cydweithrediad rhwng darparwyr gofal plant a’r awdurdodau lleol  trwy ymestyn y ddyletswydd hon i gynnwys lleoliadau sydd wedi eu cofrestri o dan system arolygu AGGCC i ddarparu gwasanaethau gofal plant. Byddai hyn yn sicrhau cysondeb rhwng darparwyr wrth i’r sector dyfu i fodloni’r galw am ofal 30 awr i blant, a byddai’n sicrhau fod modd i’r awdurdod lleol gydweithio gyda meithrinfeydd a chylchoedd meithrin a grwpiau cyffelyb wrth sicrhau hawliau plant bach i wasanaethau cynhwysiant priodol.  Mae hyn eisoes wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd ar lawr gwlad a gresyn fyddai colli'r arferion da hyn.

Yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir ar gyfer plant hyd at 12 oed. Mae Safon 4: Diwallu anghenion unigol yn datgan yn benodol

4.5 bod y Cod Ymarfer cyfredol ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig (neu Anghenion Dysgu Ychwanegol) ar gyfer Cymru yn cael ei ddilyn. Lle bo'n briodol, bod anghenion penodol plentyn yn cael eu diwallu drwy ddarparu cyfarpar arbennig;

Canlyniad Anfwriadol

Mae’r ddyletswydd gyfreithiol ar leoliadau gofal plant cofrestredig i ystyried Cod Ymarfer  AAA 2004 eisoes yn bodoli ac yn ffurfio rhan o’i harolygiadau gan yr AGGCC.  Mae’n bwysig gan eu bod yn gorfod dilyn y Cod cyfredol eu bod yn cael y cyfle i fod yn rhan o unrhyw ymgynghoriadau a thrafodaethau gyda phartneriaid lleol ynglŷn â’i weithrediad.